Y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd yr Ysgyfaint

Cross-Party Group on Lung Health

 

Cofnodion 14 Chwefror 2023

 

Yn bresennol

Aelodau o’r Senedd

Mike Hedges AS (gyda chefnogaeth Ryland Doyle)

Huw Irranca-Davies AS

Heledd Fychan AS

Rhun ap Iorwerth AS (wedi’i gynrychioli gan Rhys Hughes)

 

Aelodau eraill

Joseph Carter – Asthma + Lung UK Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Alice Spencer

Chris Davies

Chrissie Gallimore

Dave Edwards

Deborah Fossett

Hannah Bray

Jeannie Wyatt-Williams

Jerome Donagh

Joanne Allen

Joanne Oliver

John Morgan

Josephine Cock

Jonathan Morgan

Julie Mayes

Kathryn Singh

Lyn Lording

Mark Dodd

Natalie Janes

Neil Harris

Nicola Perry-Gower

Pam Lloyd

Pat Vernon

Stephanie Morgan

Stephanie Woodland

Valerie Ann Tweedie

Val Maidment

Verdun Moore

 

 

 

 

 

1.    Mike Hedges AS – Croeso a chyflwyniadau

 

Agorodd Mike Hedges AS y cyfarfod, gan ddiolch i bawb am ddod. Gofynnodd a oedd unrhyw Aelod o’r Senedd neu unrhyw aelod o staff cymorth am gyflwyno eu hunain.

 

Eglurodd Mike Hedges AS fod dau gyflwynydd heddiw, Pat Vernon (sydd wedi cymryd lle Anthony Davies) a Natalie Janes.

 

Anogodd bobl i ofyn unrhyw gwestiynau drwy ddefnyddio’r cyfleuster sgwrs.

 

 

2.    Mike Hedges AS - Ymddiheuriadau

 

Mae’r ASau canlynol wedi anfon eu hymddiheuriadau:

 

Altaf Hussain AS

Jane Dodds AS

John Griffiths AS

Vikki Howells AS

Sarah Murphy AS

Ken Skates AS

Darren Millar AS

Mark Isherwood AS

Natasha Asghar AS

Tom Giffard AS

Llŷr Gruffydd AS

Heledd Fychan AS

Luke Fletcher AS

Sioned Williams AS

Jack Sargeant AS

Siân Gwenllian AS

 

 

3.    Mike Hedges AS Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Nid oedd yr un o'r ASau a oedd yn bresennol heddiw wedi mynychu’r cyfarfod blaenorol, felly ni ellid cymeradwyo'r cofnodion. Roedd John Griffiths AS eisoes wedi eu cymeradwyo. Bydd Joseph Carter yn siarad â Altaf Hussain AS i ofyn iddo eu heilio.

 

Cam i’w gymryd: Joseph Carter i gysylltu â Altaf Hussain AS

 

 

4.   Joseph Carter – Materion sy’n codi

 

Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol yn y cyfarfod blaenorol:

 

·         Cam i’w gymryd: Joseph Carter i rannu manylion Julie Mayes a Valerie Ann Tweedie â Joanne Allen.

o   Wedi'u rhannu

 

·         Cam i’w gymryd: Joseph i ddrafftio llythyr at Eluned Morgan AS, gan grynhoi canlyniadau'r arolwg ar glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chanlyniadau'r ymarfer gwerthuso a gynhaliwyd ar yr apiau.

o   Wedi'i gwblhau

 

·         Cam i’w gymryd: Joseph i rannu'r wybodaeth a gafwyd gan Dr Simon Barry gyda phob Aelod o’r Senedd.

o   Wedi'i gwblhau

 

 

5.    Pat Vernon, Llywodraeth Cymru – Datganiad ansawdd ar gyfer clefydau anadlol

 

Diolchodd Mike Hedges i Pat Vernon am gamu i’r adwy a chyflwyno'r datganiad ansawdd ar fyr rybudd.

 

Cyhoeddwyd y datganiad ansawdd ar 30 Tachwedd 2022. Roedd y Gweinidog wedi dweud mai bwriad y datganiad ansawdd hwn ac eraill oedd i helpu i gynllunio gwasanaethau gofal iechyd yn unol â'r priodweddau ansawdd a gynhwysir ym mhob datganiad a mynd i'r afael ag amrywiadau direswm. Mae Llywodraeth Cymru felly yn disgwyl i’r priodweddau ansawdd hyn gael eu hadlewyrchu yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig (IMTP) y byrddau iechyd a’u dwyn i gyfrif gan Weithrediaeth newydd y GIG.

 

Rhestrir y priodweddau ansawdd isod:

 

Teg

 

Diogel

 

Effeithiol

 

Effeithlon

 

Canolbwyntio ar yr unigolyn

 

Amserol

 

Mae’r disgwyliadau hyn wedi’u gwneud yn glir i gadeiryddion byrddau iechyd mewn llythyrau gan y Gweinidog. Ar 03 Chwefror 2023, cyfarfu Anthony Davies a’r Athro Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, â chyfarwyddwyr cynllunio i drafod y disgwyliadau ohonynt o ran y broses gynllunio. Yn ogystal, defnyddiodd yr Athro Chris Jones y datganiad ansawdd i herio cyfarwyddwyr meddygol ynghylch pam nad yw sbirometreg wedi ailddechrau mewn rhannau helaeth o Gymru.

 

Eglurodd Pat Vernon y byddai 13 o rwydweithiau clinigol, gan gynnwys un ar gyfer clefydau anadlol. Bydd cyfnod pontio o'r Grŵp Gweithredu Iechyd Anadlol presennol i'r corff newydd.

 

Gofynnodd Mike Hedges AS am gwestiynau.

 

Joseph Carter - Sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y datganiad ansawdd yn ysgogi gwelliant?

 

Pat Vernon - Mae'r datganiadau ansawdd yno i yrru’r gwasanaethau ac i ddylanwadu ar ddogfennau IMTP. Ni ddylem orfod dibynnu ar lythyrau'n cael eu hanfon gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol i gyflawni pethau. Dywedodd ein bod yn gweld rhai datganiadau ansawdd eisoes yn destunau trafod rhwng Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd.

 

Chrissie Gallimore - pryd y gobeithir y bydd y Rhwydwaith Clinigol Anadlol yn ei le yn llawn gydag aelodaeth lawn?

 

Pat Vernon – Mae Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru wedi cyhoeddi amserlen gan gynnwys cyfnod pontio.

 

Joanne Oliver – Y gobaith yw y bydd y pontio wedi’i gwblhau tua diwedd mis Medi 2023.

 

Lyn Lording – A fydd y datganiad ansawdd yn gosod targedau ar gyfer pryd mae pobl yn cael eu trin? Pe bai rhywun yn derbyn eu gwasanaeth trwy ysbyty yn Lloegr, a fyddai'r targedau'n dal yn berthnasol?

 

Pat Vernon – Nid yw’r datganiadau ansawdd yn gosod targedau, ond os yw gwasanaethau’n cael eu darparu dros y ffin, yna byddai angen i’r bwrdd iechyd sicrhau bod y priodweddau’n cael eu cymhwyso ni waeth ble y darperir gofal.

 

Soniodd Val Tweedie am ei phrofiad o gael ei rhyddhau a’u hanfon adref o Ysbyty Treforys. Dywedodd eu bod wedi dechrau trafod ward rithwir Bae Abertawe gyda hi, ond na fyddai'n gallu cael mynediad i hwn oherwydd ei bod yn byw ym Mhowys.

 

Atebodd Joanne Allen y cwestiwn gan ddweud y gall (ac y dylai) Ysbyty Treforys ac ysbytai eraill y tu allan i Bowys gyfeirio cleifion at y tîm anadlol cymunedol ym Mhowys. Mae yna wardiau rhithwir ym Mhowys hefyd y gellir cyfeirio atynt.

 

Tynnodd Nicola Perry-Gower sylw at y ffaith bod yr hen gynllun cyflawni yn llawer manylach. Roedd hi’n poeni am ddiffyg atebolrwydd o ran darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

 

Pat Vernon – Mae angen i ni sicrhau bod safon uchel o wasanaeth yn cael ei ddarparu a bydd hyn yn cael ei graffu.

 

 

6.   Natalie Janes - Canolfannau diagnostig sbirometreg

 

Cyflwynodd Mike Hedges y siaradwr nesaf, Natalie Janes, a diolchodd iddi am gyflwyno.

 

Eglurodd Natalie Janes fod dwy ganolfan ddiagnostig wedi'u cyflwyno yng ngogledd a de Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ymgymerodd pob canolfan â phrofion sbirometreg a phrofion anadlu allan ocsid nitrig ffracsiynol (FeNO), yn ogystal â dehongli’r profion, cadarnhau diagnosis, a, lle bo angen, pennu llwybrau triniaeth a rheolaeth briodol.

 

Y nod oedd mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion sy’n aros am brofion sbirometreg diagnostig o fewn y gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

Amcanion:

·         Lleihau’r rhestrau o gleifion sy’n aros am brofion sbirometreg diagnostig a lleihau oedi o ran rhoi diagnosis/ansicrwydd o ran diagnosis.

·         Gwella canlyniadau triniaeth ar gyfer cleifion a welir gyda chlefydau anadlol, gan sicrhau presgripsiynu darbodus/rheolaeth briodol o feddyginiaethau.

·         Lleihau’r niferoedd sy’n defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau y tu allan i oriau, meddygon teulu, a gwasanaethau gofal eilaidd.

·         Darparu gwasanaethau a gofal yn nes at adref yn unol â “Cymru Iachach”.

·         Sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd sylfaenol a chymunedol yn cael eu hyfforddi a’u hardystio’n briodol drwy gynnal eu sgiliau a’u cymhwysedd/ailachrediad ar gyfer sbirometreg, a chynnal gweithlu gweithredol.

 

Canlyniadau:

·         Gwellhad yn yr asesiad diagnostig a’r rheolaeth o gyflyrau fel COPD, asthma, ffibrosis yr ysgyfaint a chlefyd interstitaidd yr ysgyfaint ar gyfer yr holl gleifion a asesir gan bob canolfan ddiagnostig.

·         Lleihad o 52 o gleifion yn y rhestr o gleifion gofal eilaidd yn aros am brofion gweithrediad yr ysgyfaint o fewn y gyfarwyddiaeth anadlol, gan gefnogi diagnosis cynharach a mynediad cynharach at y camau gofal nesaf i'r cleifion hyn.

·         Gwell canlyniadau o ran triniaeth i gleifion â chlefydau anadlol, gan sicrhau presgripsiynu darbodus/rheolaeth briodol o feddyginiaethau.

·         Gostyngiad yn y niferoedd yn defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau y tu allan i oriau, meddygon teulu, a gwasanaethau gofal eilaidd.

·         Cynhaliaeth o ran sgiliau staff a chymhwysedd/ailachrediad ar gyfer sbirometreg, trwy ddarparu hyfforddiant/addysg o fewn canolfannau er mwyn hybu cynaliadwyedd yn y dyfodol.

·         Adolygwyd 347 o gleifion wedi’u haenu yn ôl risg, ac o'r rhain cafodd 136 o gleifion newid yn y diagnosis atgyfeirio.

·         Cafodd 31 o'r cleifion hyn eu derbyn i'r ysbyty a chafodd 7 eu derbyn i uned therapi dwys yn y 12 mis diwethaf.

·         Roedd 104 o’r cleifion wedi profi 2 waethygiad yn ystod y 12 mis diwethaf.

·         Roedd 52 claf yn llai ar restr aros y gyfarwyddiaeth anadlol 

 

Gofynodd Mike Hedges AS am gwestiynau.

 

Mark Dodd – Fel arfer, argymhellir hyfforddiant wedi’i achredu gan y Gymdeithas

Technoleg a Ffisioleg Anadlol (ARTP) ar gyfer sbirometreg ond nid oes ei angen ar gyfer profion FeNO. Ystyrir sbirometreg yn weithdrefn risg gymedrol a FeNO yn weithdrefn risg isel gan ARTP.  Mae’n ymddangos mai canolfannau cydweithredol yw’r ffordd ymlaen yn unol â NICE, gyda thimau hyfforddedig a defnydd effeithlon o adnoddau. Yn Lloegr mae'r dangosydd QOF (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau) ar gyfer asthma yn cymell cynnydd yn y nifer sy'n cymryd profion allweddol fel sbirometreg a FeNO. A oes bwriad i gyflwyno'r cynlluniau peilot hyn ac o bosibl gynnwys FeNO hefyd?

 

Natalie Janes – O fewn Aneurin Bevan mae practisau sy’n awyddus i ddarparu sbirometreg unwaith eto, ond rwy’n poeni am y practisau na fyddant yn ailddechrau a beth sy’n digwydd i’r cleifion hynny. Dyna pam mae canolfannau diagnostic mor bwysig. Mae costau hyfforddi a dilysu staff mewn gofal sylfaenol yn rhwystr. Mae angen edrych arno ar sail Cymru gyfan.

 

Dywedodd Joanne Oliver ei bod yn teimlo bod angen ailsefydlu'r canolfannau os yn bosibl, a bod addysg o fewn practisau yn allweddol.

 

Huw Irranca-Davies AS – Yn fy etholaeth i, mae gennym rai meddygon teulu sy’n cynnig sbirometreg. Os na allwn gael canolfannau sbirometreg ym mhob cymuned, efallai y dylem fod yn gofyn i Lywodraeth Cymru sut y maent yn sicrhau bod darpariaeth gynhwysfawr ym mhob bwrdd iechyd?

 

Cytunodd Natalie Janes a dywedodd eu bod yn gweithio gydag Agored i helpu hyfforddi staff.

 

Soniodd Joseph Carter am y llythyr gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol at fyrddau iechyd yn gofyn iddynt ailgychwyn profion sbirometreg. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhannu copi o’r llythyr hwn, felly ni allwn wneud sylw ar ba mor gryf yw’r arweiniad. Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru yn glir nad ydynt eisiau gweld sbirometreg yn rhan o ofal sylfaenol.

 

Pat Vernon - O ran cysylltu'r gwaith hwn â'r datganiad ansawdd, mae'n amlwg yn dod o fewn y maes gofal 'effeithlon'. Gall y rhwydwaith clinigol edrych ar brosiectau arloesol fel hyn ac yna gallant gefnogi'r posibilrwydd o gyflwyno arloesedd o'r fath ar draws byrddau iechyd eraill.

 

Cytunodd Pat Vernon i rannu'r ymatebion y byrddau iechyd i lythyr y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

 

Diolchodd Dr Jerome Donagh i Natalie Janes am ei chyflwyniad a’r gwaith y mae pawb yn ei wneud ond disgrifiodd y sefyllfa fel ‘traed moch’ ac anogodd Lywodraeth Cymru i ddatrys y broblem hon. Dywedodd fod miloedd o bobl yn methu cael diagnosis. Nid oes gan ysbytai y capasiti i'w ddarparu. Bu enghreifftiau o ganolfannau’n gweithredu am gyfnod byr ac yna'n stopio. Yn ei bractis ei hun, mae'r nyrsys yr oedd wedi'u hyfforddi i wneud sbirometreg i gyd wedi gadael. Mae hon yn broblem enfawr nad oes neb yn gwneud dim amdani.

 

Cytunodd Pat Vernon â llawer o bryderon Dr Donagh a chytunodd i gyfleu’r pryderon hynny i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru

 

Mae Natalie Janes yn pryderu am ddiffygion o ran cofnodion cleifion. Hyd yn oed pan wneir sbirometreg, yn aml nid yw'n cael ei gofnodi'n briodol.

 

John Morgan - Ym Mhowys, rydym wedi gallu dadlau dros fuddsoddi mewn sbirometreg fanwl gywir trwy leihau presgripsiynu amhriodol (heb brofion sbirometreg manwl gywir, mae rhai unigolion yn cael diagnosis anghywir o COPD, er enghraifft, ac yna'n cael presgripsiwn am feddyginiaeth nad oes ei hangen arnynt yn glinigol). 

 

 

7.    Joseph Carter – y cyfarfod nesaf a'r gwaith sydd i ddod

 

Gofynnodd Mike Hedges AS i Joseph Carter i siarad am y cyfarfodydd nesaf. Diolchodd Joseph i bawb am eu cyfraniadau ac am roi o’u hamser i ddod i’r cyfarfod. Cadarnhaodd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 13 Mehefin 2023, pan fydd y grŵp yn canolbwyntio ar ganlyniadau arolwg Asthma + Lung UK ar fyw gyda chlefydau'r ysgyfaint. Ar 02 Mai am hanner dydd, bydd Asthma + Lung UK Cymru yn cynnal derbyniad yn y Senedd ar gyfer Diwrnod Asthma’r Byd. Mae croeso i bawb.

 

Dywedodd Joseph y byddai’n sôn am yr holl bryderon a godwyd yn ei gyfarfod gyda’r Gweinidog Iechyd ar 20 Mawrth 2023.

 

 

8.   Mike Hedges AS – Unrhyw fater arall

 

Gofynnodd Mike Hedges AS a oedd gan unrhyw un unrhyw fater arall. Nid oedd unrhyw fater arall, felly diolchodd i bawb am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben.